Disgrifiad
Mae ymwelwyr wedi cyrchu i Ddyffryn Gwy ers canrifoedd. Yma y ganed twristiaeth gwledydd Prydain yn y 1700au hwyr, pan ddaeth y daith cwch dau ddiwrnod o Ross on Wye i Gas-gwent yn rhywbeth arferol. Mae’r llyfr hwn yn bwrw golwg ar y gorffennol, gyda straeon, darluniau, barddoniaeth a lluniau sy’n portreadu’r dreftadaeth hynod.



