Disgrifiad
Un fach brysur yw Nia bob amser; byth a hefyd yn gwingo ac yn siglo, yn troi ac yn trosi, ac yn ffidlan yn llawn ffwdan. All hi ddim peidio. Felly, pan mae dosbarth Nia yn mynd ar daith i’r sw, mae Miss Gwenno yn ei rhybuddio rhag gwingo a siglo, ond a fydd Nia yn gwrando ar ei chyngor, tybed?



