Disgrifiad
Casgliad diddorol o 250 o ffotograffau du-a-gwyn a mapiau ynghyd â nodiadau perthnasol yn portreadu hanes Rheilffordd Fach Ucheldir Cymru o Gaernarfon i Borthmadog, y dechreuadau yn yr 1870au, cyfnod prysur oes aur y diwydiant llechi, y dirywiad ar droad yr ugeinfed ganrif a’r cyfraniad a wneir ganddi i’r diwydiant ymwelwyr llewyrchus heddiw.



