Disgrifiad
Rhoddir sylw i berfformwyr wrth iddynt amlygu eu hunain ar lwyfan y Theatr Gymraeg. Cyflwynir dadansoddiad craff o ddatblygiad crefft perfformio o gyfnod defodau cyntefig, campau’r cyfarwydd ac adloniant gwerinol yr anterliwt hyd at y perfformiwr yn y pulpud, y perfformiwr amatur a’r ymdrechion i sefydlu theatr mwy soffistigedig a phroffesiynol.



