Disgrifiad
Atlas stryd graddfa 4 modfedd i’r filltir ar gyfer Bangor a Chaernarfon, ynghyd â threfi a phentrefi eraill yng ngogledd Arfon ac Ynys Môn, yn cynnig gwybodaeth fanwl am yr ardal megis ysbytai, meysydd parcio, swyddfeydd post, strydoedd un-ffordd, cyfleusterau hamdden, ardaloedd diwydiannol ac ardaloedd mân-werthu.



