Disgrifiad
Ers iddo adael y coleg, mae bywyd Cai Owen mewn rhigol, hyd nes iddo gyfarfod grym arallfydol y Porthwll sy’n ei alluogi i gywiro camgymeriadau’r gorffennol. Tybed a fydd ei allu yn dwyn lles neu anlwc i Cai, ei deulu a’i ffrindiau? Nofel am ddau fersiwn o’r un cymeriad sy’n bodoli mewn dau ddeimensiwn gwahanol.



