Disgrifiad
Mae Ynys Dewi (Ramsey), sy’n gorwedd tua 1km o benrhyn Dewi yn sir Benfro, yn eiddo i’r RSPB. Ceir yma olygfeydd arfordirol a gweundirol trawiadol, a chlogwyni adar môr ysblennydd, a dyma gartref magu pwysicaf y Morlo Llwyd yn ne Prydain. Mae Ramsey Island yn cyfuno gwybodaeth a phrofiad Ffion Rees gyda’i ffotograffau hynod hardd.



