Disgrifiad
Fersiwn newydd o’r llyfr ryseitiau Cymreig. Mae Rarebit and Rioja yn gymaint mwy na llyfr ryseitiau gan ei fod yn cynnwys straeon am deithiau Dylan yn ymweld â gwinllannoedd gwahanol ar draws Ewrop. Ceir ynddo amrywiaeth eang o ryseitiau gan ddefnyddio’r cynhwysion Cymreig gorau – gydag argymhellion am y gwin gorau i’w yfed gyda’r pryd.



