Disgrifiad
Dychwelodd tad Richard Bernard adref ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, a ganwyd ei fab (yr awdur) yn 1946. Yn ystod plentyndod yr awdur, symudodd ei dad o swydd i swydd cyn i’r teulu gyrraedd Eryri yn 1957. Cafodd y bachgen ifanc ei dderbyn yn gynnes gan Gymry Beddgelert, a chyfrifai ef hwy yn aelodau o’i deulu estynedig.



