Disgrifiad
Pan gyhoeddwyd gyntaf yn 1991, rhestrwyd y chwaraewyr pêl-droed yn nhrefn yr wyddor, ond y tro hwn, fe’u rhestrir yn nhrefn eu hymddangosiadau dros eu gwlad. Dyma’r gyfrol gyntaf o dair, mae’r testun wedi’i ddiweddaru’n llawn, a chynhwysir ffotograffau o bob pêl-droediwr, bron.



