Disgrifiad
Casgliad o gerddi yn portreadu profiadau bywyd Emily Vanderploeg. Dilynwn hi ar ei thaith o gartref ei phlentyndod hyd nes iddi setlo dros y môr, gan brofi gorthrwm carwriaethau wrth symud i ddinasoedd newydd a chanfod aeddfedrwydd newydd, tra ar yr un pryd yn myfyrio ar ddiwedd ieuenctid, ac ar y colli a’r darganfod a brofir yn y broses honno.



