Disgrifiad
Enillydd gwobr Tir na n-Og 2017. Stori gynnes am dynnu aelodau gwahanol un gymuned Gymreig ynghyd, ac am hanes rhyfeddol y gymuned Eidalaidd yng Nghymru. Mae Joe yn caru ei etifeddiaeth Eidalaidd: yr iaith, opera a lasagne. Ond mae’n anodd dathlu ei wreiddiau Eidalaidd ym Mrynmawr yng Ngwent, lle mae ei fam wedi diflasu ar gynnal y caffi teuluol.



