Disgrifiad
Cofiant y Parchedig J. Tywi Jones, 1870-1948, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, awdur a golygydd Y Darian rhwng 1914 ac 1933. Cymeriad a aeth yn angof yw Tywi Jones, ond yn ei ddydd yr oedd yn arloeswr mewn sawl maes, gan gynnwys mudiad y ddrama Gymraeg, y mudiad heddwch a’r mudiad cenedlaethol.



