Disgrifiad
Canllaw i archwilio 325 o goetiroedd mwyaf ysblennydd Cymru sy’n frith o hanes a bywyd gwyllt. Yn y canllaw ymarferol hwn, mae Gabriel Hemery yn crynhoi holl brydferthwch, pwrpas, hanes a bywyd gwyllt rhai o’r safleoedd coetir mwyaf rhyfeddol yng Nghymru, o’r mwyaf (fel Coedwig Tywi, sy’n cwmpasu mwy na 6,000 hectar) i’r lleiaf (hectar yn unig).



