Disgrifiad
Câi tîm rygbi talentog Pont-y-pŵl ei ofni a’i gasáu yng Nghymru a thu hwnt yn ystod yr 1970au a’r 1980au, ac ystyrid yr hyfforddwr, Ray Prosser yn ddyn o flaen ei amser o ran ei ddulliau hyfforddi. Yn y gyfrol ddifyr hon, olrheinir stori ddramatig twf a chwymp y tîm a’r hyfforddwr enigmatig. 12 llun lliw a 15 llun du-a-gwyn.



