Disgrifiad
Mae’r gyfrol hon yn olrhain dylanwad Robert Owen a radicaliaid eraill ar ffurfio’r Blaid Lafur ymhlith pobl Cymru. O 1900 i 1906, dan arweinyddiaeth Keir Hardie, Mabon, ac eraill, gweithiodd y Blaid Lafur yn ddiflino i berswadio glowyr a gweithwyr mai Llafur – nid y Rhyddfrydwyr – ddylai fod yn blaid iddyn nhw.



