Disgrifiad
Taith gerdded 29 milltir o hyd, mewn pum rhan (4-6 milltir o hyd), wedi’i chysylltu â chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, yn dilyn taith hanesyddol Mari Jones yn 1800 o Lanfihangel-y-Pennant i’r Bala i brynu Beibl. Cynhwysir mapiau clir ynghyd â gwybodaeth am fannau diddorol ar hyd y daith. 12 llun.



