Disgrifiad
Mae llygoden yn yfed llaeth y bachgen. Mae e’n mynd at y fuwch, y cae, y ffynnon a’r masiwn, ond fedran nhw mo’i helpu. Yna, mae e’n cynnig plannu coed ar y mynydd, a phan fo’r mynydd yn ei helpu yntau, mae’r cymeriadau eraill yn gwneud yr un fath, hyd nes y bo ganddo ddigon o laeth i ymolchi ynddo.



