Disgrifiad
Yn gyfrol sy’n dangos ôl ymchwil eang, mae The Naval History of Wales yn adrodd stori rymus sy’n cwmpasu bron i 2,000 o flynyddoedd, o Oes y Rhufeiniaid hyd at y presennol. Mae llawer o wŷr a gwragedd o Gymru wedi gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol ac yn llyngesoedd gwledydd eraill.



