Disgrifiad
Mae plentyn yn cychwyn mewn ysgol newydd mewn tref newydd, ddieithr. Nid yw plant y dosbarth yn ei chroesawu ac nid ydynt yn ei chynnwys yn eu gweithgareddau. Ymateb y ferch yw creu rhywbeth hardd sy’n trawsffurfio ymddygiad y plant tuag ati ac yn newid eu golwg ohonynt eu hunain ac o’u bywydau. Stori sy’n ysbrydoli.



