Disgrifiad
Aberglais – un pentref, un goedwig, a bywydau wedi’u cysylltu ar draws y canrifoedd. Ni chaiff drama a ddigwyddodd yno yn y drydedd ganrif ar ddeg ei datrys hyd heddiw. Mae cliwiau a guddiwyd gan fynach canoloesol yn arwain disgybl ysgol, Tom Rhys a’i ffrind Beth Jones at ddarganfyddiad anhygoel. Ar hyd y canrifoedd, wyddai neb am y cyswllt…



