Disgrifiad
Wedi derbyn y newyddion ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson’s, mae’r nofelydd Richard Collins yn penderfynu teithio’r byd, gan archwilio mannau anghysbell, o ran tirwedd a diwylliant, tra bo’i gyflwr yn caniatáu. Mae’n teithio i India, Nepal, Syria, Twrci, Moroco, Periw ac Ecwador, ac mae’r gyfrol yn archwilio’r byd ac afiechyd yr awdur.



