Disgrifiad
Nawfed argraffiad y Rough Guide to Wales sy’n ganllaw cynhwysfawr i Gymru gyfan, o bentrefi bychain i ddinasoedd byrlymus, o draethau hudolus i gestyll mawreddog, o ddyffrynnoedd ffrwythlon i fynyddoedd gerwin. Mae mapiau a chyfarwyddiadau defnyddiol yn britho’r gyfrol, ynghyd â ffotograffau lliw trawiadol.



