Disgrifiad
Roedd taith rygbi’r Llewod i Dde Affrig yn 1997 yn un o’r rhai mwyaf eiconig yn hanes y gamp. Doedd neb yn gweld gwŷr Martin Johnson yn llwyddo yng ngardd gefn y Springbok, pencampwyr y byd. Ond gwnaeth y cyfuniad o hyfforddi disglair, dewisiadau clyfar a chwaraewyr hynod osod y sylfeini ar gyfer ysbryd ymosodol, rhyfeddol y tîm teithiol.



