Disgrifiad
Pan glywodd Daniel Rowland y pregethwr Thomas Charles am y tro cyntaf, ymatebodd fel hyn, ‘Charles yw rhodd Duw i ogledd Cymru.’ Erbyn ei farwolaeth yn 59 mlwydd oed, Thomas Charles o’r Bala oedd yr arweinydd Cristnogol enwocaf ac anwylaf drwy’r wlad. Mae’r gyfrol hon yn ceisio dangos pam y cái ei garu a’i barchu gan gynifer.



