Disgrifiad
Pan nad yw plant y teulu Shufflet yn ymladd â’i gilydd, maent yn creu trafferth i’w cymdogion. Wedi cyfnod o gael eu symud i sawl lle, adleolir y teulu i gefn gwlad. Mae’r tŷ agosaf ddau can llath i ffwrdd, yn eiddo i bâr oedrannus, a chyn hir mae’r plant yn ailafael yn eu hen driciau.




