Disgrifiad
Yn Together Stronger, adroddir stori ryfeddol deng mlynedd yn hanes tîm pêl-droed Cymru rhwng 2005 a 2015. Dyma’r cyfnod pan welwyd y tîm cenedlaethol yn syrthio i rif 117 yn rhestr detholion FIFA, cyn dringo, dan reolaeth Toshak, Speed a Coleman, i’r deg uchaf, gan ennill lle ym mhencampwriaeth Ewro 2016.



