Disgrifiad
Canllaw hwylus yw The Top 500 Summits i’r copaon uchaf ym Mhrydain ac Iwerddon gan Barry K. Smith a’i gyd-gerddwyr. O’r 500 copa a gynhwysir, mae 430 yn yr Alban, 29 yn Iwerddon, 21 yng Nghymru ac 20 yn Lloegr. Mae’r gyfrol yn cynnwys llu o ffotograffau lliw ynghyd â mapiau a chyfarwyddiadau eglur.



