Disgrifiad
Does yna yr un teulu cystal â’r Tuduriaid am ddrama, brad, cynllwyn a sgandal, gwrthryfeloedd gwaedlyd a dienyddiadau creulon. Cewch yr holl hanesion yn y gyfrol fechan hon, wedi’u cyflwyno yn erbyn cefnlen o gestyll mawrion a phalasau gwych, gwleddoedd rhwysgfawr, dillad moethus a thwrnameintiau ysblennydd.



