Disgrifiad
Stori am gi defaid ar fferm yn Llŷn – Tyrbo – yn mynd ar goll. Mae Twm, ffrind pennaf Tyrbo yn torri’i galon ac yn colli diddordeb yn ei hoff bethau. Ond mae’r holl gymuned yn ceisio helpu i ddod o hyd i Tyrbo – o ffrindiau ysgol Twm, i’r cigydd, i’r plismon cefn gwlad. Mae pawb eisiau gweld y ci yn cyrraedd adref. Nofel anturus ac emosiynol.



