Disgrifiad
Casgliad o weithiau rhai o awduron iau mwyaf nodedig Croatia, Groeg, Serbia, Slofenia a Chymru a fu’n rhan o brosiectau preswyl cyfnewid, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a thraethodau sy’n adlewyrchu’r diddordebau a’r gofidiau a rennir gan lenorion ifanc o wledydd na dderbyniant lawer o sylw gan ddarllenwyr yn Saesneg.



