Disgrifiad
Cofiant Richard Wain, Penarth, sir Forgannwg, a enillodd Groes Fictoria am ei wrhydri ym Mrwydr Cambrai yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan nad oedd ond 20 oed. Olrheinir yn fanwl hefyd hanes Corfflu’r Tanciau Arfog, a’i gyfraniad tuag at ennill y rhyfel, gan edrych ar hyfforddiant y llu dynol a’r datblygiadau ym maes tanciau.



