Disgrifiad
Mae’r casgliad o gerddi Visiting the Minotaur yn adlewyrchu ymchwil Claire Williamson i’w gorffennol o fewn teulu anodd a threisiol ar adegau. Er mwyn datgelu’r gwirionedd a dod i delerau â ffeithiau tywyll ei phlentyndod, mae’n ailgreu amgylchiadau, gan fenthyg cymeriadau o fythau, paentiadau a chwedlau.



































