Disgrifiad
Llwybr Cenedlaethol sy’n rhedeg drwy ganolbarth Cymru yw Llwybr Glyndŵr. Cymer y daith 135 milltir o hyd 9 diwrnod i’w cherdded, a 2 ddiwrnod i gwblhau’r ddolen ar hyd Clawdd Offa i greu taith gylchynol. Mae’n dolennu i’r gorllewin o Drefyclo drwy Fachynlleth i’r Trallwng, gyda golygfeydd o fryndiroedd, coedwigoedd a gwastadeddau braf….



