Disgrifiad
Casgliad o ffotograffau yn portreadu’r rheilffordd un llinell hon sy’n cynnig taith bleserus i ganolbarth Cymru. Un orsaf sy’n parhau ar agor, ond mae modd edmygu swyn gwledig y gorsafoedd a gaewyd, y ddwy gangen rheilffordd sydd wedi hen gau, ynghyd â Rheilffordd Ardal Snailbeach i amrywiol chwareli.



