Disgrifiad
Caiff bywyd Emmeline ei chwalu pan ddygir ei mam i ysbyty meddwl, ac y’i hanfonir hithau i gartref gofal, ymhell oddi wrth ei chwaer. Yno, heb ddim ond cardigan lwcus yn gysur iddi, mae’n ceisio dygymod â newid byd, gwneud ffrindiau newydd, cael ei bwlio a dioddef hunllef am betalau gwynion.



