Disgrifiad
Ffuglen anturus wedi ei gosod yng Nghymru yng nghyfnod cyn-Arthuraidd yr Oesoedd Tywyll, yn portreadu brwydr am oruchafiaeth rhwng y Derwyddon, sydd â’u dylanwad yn pylu, ac offeiriaid Cristnogol a symudodd i Brydain o Rufain. Tybed a fydd modd plethu’r hen a’r newydd er mwyn diogelu dyfodol pobl Cymru?




