Disgrifiad
Lluniodd Katrina Naomi y casgliad hwn o gerddi wedi iddi symud o Lundain i Gernyw, ac ynddynt mae’n ystyried pellter ac agosatrwydd, gan gwestiynu sut i fyw. Archwilir deuoliaeth a chyrhaeddiad, rhyw a dawns, a thrip i Siapan a cheir adran gref o gerddi am ganlyniadau trais. Dyma lais cyfoes a chredadwy.



