Disgrifiad
Blodeugerdd o farddoniaeth, traethodau telynegol ac arlunwaith gan wragedd, yn archwilio perthnasoedd cymhleth gwragedd gyda gwaith, yr amgylchfyd, eu teuluoedd, eu cyrff a gyda’i gilydd. Dyma fynegiant cynhwysol o chwaeroliaeth trwy gyfrwng ystod eang o leisiau sy’n cynnig ffeministiaeth croestoriadol.



