Disgrifiad
Golwg hanesyddol, personol a pheirianyddol difyr ar fywyd a gwaith Thomas Telford, un o beirianwyr sifil pennaf Prydain, ynghyd a chanllaw cyfoes i Gamlas Llangollen a Phont Ddŵr Pontcysyllte, gyda’r bont ddŵr wedi derbyn statws safle Treftadaeth UNESCO yn ddiweddar. Cyfrol ddarluniadol mewn lliw llawn.



