Disgrifiad
Llyfr am Sieffre o Fynwy, clerigwr o’r ddeuddegfed ganrif a gyfansoddodd ‘hanes’ manwl a pharhaus Ynys Prydain o’i chychwyn hyd at goncwest yr Eingl-Sacsoniaid. Bu ei weithiau yn hynod o boblogaidd drwy orllewin Ewrop, ac iddo y perthyn yr anrhydedd o oleuo cynulleidfa ehanghach ynghylch hanes Prydain ac Arthur yn arbennig.



