Disgrifiad
Wrth i fachgen bach ollwng carreg y mae newydd ei lliwio i’r dŵr, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd … ‘Yn sydyn, roedd yna fflach o olau llachar a synau rhyfeddol. Neidiodd Peter yn ôl mewn rhyfeddod wrth weld pysgodyn lliwgar yn nofio yn y dŵr. Roedd carreg Peter wedi dod yn fyw!’



