Various Artists - Senglau'r Selar
Various Artists - Senglau'r Selar
- Product ID : Rasal CD038
- Label: Rasal
- Genre: Pop/Rock
- Format: Album
- Released: 2016
Casgliad Senglau’r Selar
Datblygodd syniad Clwb Senglau’r Selar wrth i ni baratoi i ddathlu pen‑blwydd Y Selar yn 10 oed yn Nhachwedd 2014. A’r cylchgrawn wedi rhoi sylw cyson i artistiaid newydd erioed, pa ffordd well i nodi’r garreg filltir na thrwy lansio cynllun i ryddhau senglau cyntaf yr artistiaid ifanc mwyaf cyffrous roedden ni’n dod ar eu traws.
Ers hynny mae’r Clwb Senglau wedi rhyddhau 10 o ganeuon gan grwpiau amrywiol iawn, gan adlewyrchu amrywiaeth genres y sin Gymraeg ar hyn o bryd. Mae mor anodd, ond eto mor bwysig, i grwpiau ifanc gael y cyfle cyntaf yna i fynd i stiwdio broffesiynol, a recordio trac i safon uchel. Rydan ni’n falch iawn bod Clwb Senglau’r Selar wedi gallu cynnig nid yn unig y cyfle yna i fynd i stiwdio, ond i’r rhan fwyaf o’r bandiau, y cyfle i recordio eu cynnyrch cyntaf yn stiwdio eiconig Sain yn Llandwrog.
Mae’r senglau i gyd wedi cael ymateb da, ac mae’n destun balchder gweld bod nifer o’r bandiau wedi mynd ymlaen i recordio a rhyddhau mwy o gynnyrch wedi hynny. Gobeithio bod y cynllun wedi helpu rhoi’r hwb bach cyntaf iddyn nhw.
Wrth gwrs, yn ddigidol yn unig mae’r traciau wedi eu rhyddhau hyd yma, felly roedd rhaid casglu’r traciau i gyd ynghyd ar un casgliad CD i ddathlu llwyddiant Senglau’r Selar – mwynhewch.
Share
Subscribe to our emails
Be the first to know about new stock and exclusive offers.