Disgrifiad
Un o feirdd y cywydd oedd Gruffudd Gryg, a chanai yn yr un cyfnod â’i gyfaill a’i wrthwynebydd Dafydd ap Gwilym, sef tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ceir yn y gyfrol hon rai o’r cywyddau hynotaf a luniwyd erioed, megis y cerddi a ganodd Gruffudd i’r lleuad ac i’r don tra oedd ar bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen.



