Disgrifiad
Yn yr astudiaeth newydd ac arloesol hon o’r cysylltiadau rhwng testun a lle, mynegiant creadigol a hunaniaeth ddiwylliannol, mae Alice Entwistle yn dangos sut y defnyddir y testun barddonol gan rai o feirdd benywaidd gorau Cymru i adlewyrchu’r cymhlethdodau gwleidyddol-ddiwylliannol o ysgrifennu yng Nghymru, ac am y cartref diwylliannol a rannant.



