Disgrifiad
Yn y ddarlith hon mae Geraint H. Jenkins yn trafod hynt a helynt Iolo Morganwg (1747-1826) yn y cyfnod hyd at ei ben blwydd yn 48 oed, gan ganolbwyntio ar ddau gwestiwn. Yn gyntaf, sut a phaham y daeth Iolo Morganwg yn weriniaethwr? Ac yn ail, sut y mynegodd ei radicaliaeth danbaid yn ystod ei fywyd tymhestlog yn Llundain rhwng 1791 a 1795?



