Disgrifiad
Llyfr llawn gwybodaeth a chynghorion i unrhyw un sy’n mynd drwy’r menopos. Dyma’r unig gyfrol yn y Gymraeg sy’n ymdrin â’r pwnc sensitif a phwysig yma. Ceir rhagair gan Emma Walford a chyfraniadau gan arbenigwyr yn y maes meddygol a deddfwriaethol, yn ogystal â hanesion emosiynol a doniol unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan y Newid…



