Disgrifiad
Mae cyfrol y cyn-chwaraewr a’r swyddog Kevin Dicks yn dangos ôl ymchwil manwl iawn wrth iddo olrhain datblygiad y gamp werinol ‘handball’ o’i gwreiddiau canoloesol ym mynwent yr eglwys, trwy gyfnod llewyrchus y 18fed a’r 19eg ganrif hyd at y cyfnod modern. Dros 60 o luniau du-a-gwyn.




