Disgrifiad
Wynebwn heddiw argyfyngau hinsawdd, gwacter ystyr, ac ymchwydd asgell dde ddigyfaddawd. Dyma destun sy’n olrhain hanes deallusol radical Cymru yng nghwmni merch o’r enw Ceridwen, sy’n ein hannog fel darllenwyr i ailafael mewn etifeddiaeth ddeallusol Gymreig yn wyneb heriau’r dydd.



