Disgrifiad
Mae’r llyfr hwn yn trafod hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd dylanwadol J. R. Jones ym 1970. Mae’n olrhain ac yn dadansoddi ymateb awduron a deallusion Cymraeg i syniadau newydd, megis seicdreiddiad a dirfodaeth, ym meysydd seicoleg ac athroniaeth.



